Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mehefin 2013
Amserlen ar gyfer ystyried Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol
1. Ar 4 Mehefin 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheolau Sefydlog 29.4 a 29.5, i gyfeirio nifer o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol i amrywiol bwyllgorau, i ystyried y darpariaethau perthnasol a chyflwyno adroddiad arnynt a chytunodd hefyd ar y dyddiadau isod ar gyfer cyflwyno adroddiadau:
Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona - Darpariaethau sy'n ymwneud ag adfer perchnogaeth o dai annedd: cyfeiriwyd at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad erbyn 19 Medi 2013.
Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona - Darpariaethau sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol: cyfeiriwyd at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad erbyn 19 Medi 2013.
Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona - Darpariaethau mewn perthynas â rheolaethau ariannol ar brif gwnstabliaid yng Nghymru: cyfeiriwyd at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad erbyn 19 Medi 2013.
Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona - Darpariaethau mewn perthynas â chyflwyno hysbysiadau amddiffyn cymunedol, gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus, hysbysiadau cau a diwygiadau i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991: cyfeiriwyd at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad erbyn 19 Medi 2013.
Bil Gofal: cyfeiriwyd at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad erbyn 4 Gorffennaf 2013.
Bil Eiddo Deallusol: cyfeiriwyd at y Pwyllgor Menter a Busnes i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad erbyn 26 Medi 2013.
Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol: cyfeiriwyd at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyflwyno adrod